|
||||
|
||||
|
||||
One of the most common reasons for online accounts being compromised is weak passwords.
One of the main secrets to making a password strong is to make it long. A good way to create a strong and long memorable passwords is by joining three random words together.
Un o'r rhesymau mwyaf cyffredin fod cyfrifon ar-lein yn cael eu hacio ydi fod y cyfrinair yn wan.
Un o'r prif gyfrinachau i wneud cyfrinair yn gryf yw ei wneud yn hir. Ffordd dda o greu cyfrineiriau cofiadwy, cryf a hir yw trwy uno tri gair ar hap gyda'i gilydd.
Meddyliwch am rywbeth fyddai’n anodd i rywun ei ddyfalu a dim ond chi fyddai’n ei wybod e.e. NofioddGorilaGlas
Gallwch ychwanegu symbolau a rhifau i’w wneud hyd yn oed yn fwy cymhleth e.e. !NofioddGorilaGlas#999
Bydd hacwyr yn gwybod i roi cynnig ar gannoedd o wahanol fersiynau o eiriau poblogaidd (Lerpwl, L37pw1, LeR9w!), felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio tri gair ar hap wrth ddefnyddio rhifau neu symbolau yn eich cyfrinair i sicrhau ei fod yn dal i fod yn anodd i’w ddyfalu.
| ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|